Bistro Moelwyn - Datganiad Mynediad
- Mae Bistro Moelwyn wedi ei leoli yng nghanol Blaenau Ffestiniog gyda pharcio gyferbyn ar ochr y ffordd tŷ allan. Mae lle parcio ychwanegol 100 metr i ffwrdd mewn maes parcio talu ac arddangos.
- Mae gorsafoedd Dyffryn Conwy a Rheilffordd Ffestiniog yn ogystal â safleoedd bws o Gaernarfon, Porthmadog a Dolgellau hefyd 100 metr i ffwrdd gyferbyn a’r maes parcio. Mae arwyneb y maes parcio yn wastad gyda’r palmentydd yn eang heb annibendod.
- Mae’r prif fynediad yn wastad gyda’r palmant, ac mae’r llawr pren a llechi yn wastad drwodd, nid oes grisiau.
- Mae'r drws mynediad yn ddigonol o led i gadair olwyn, wedi ei oleuo’n dda, gydag aelod o staff wrth law i gynorthwyo.
- Mae croeso i gŵn cynhorthwy.
- Eisteddfa hyblyg i fyny i 16 ar y llawr isaf, gyda llefydd eistedd ychwanegol, gyda grisiau a mynediad ar gyfer ambiwlans ar y llawr cyntaf.
- Mae’r toiled aml-rhyw a hygyrch wedi ei adeiladu i ofynion penodedig, gyda chanllawiau, tapiau cyffwrdd, basin a thoiled i’r uchder cywir, ac mae ar y llawr isaf. Mae cyfleusterau newid clytiau babi wedi ei leoli o fewn y toiled hwn.
- Mae ystyriaeth i arwyddion drwy’r adeilad, lefelau goleuo ac arwyneb tonyddol lliwiau er sicrwydd defnydd diogel o’r cyfleusterau.
- Mae ein Bwydlen ddwyieithog mewn llythrennau bras, ac mae’r staff wrth law ar gais.
- Mae mwyafrif o’r rhwydweithiau ffon ar gael, gyda ffon llinell tir ar gael.